0:00-45:59
Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.
Yn ei harddegau, roedd Siân Grigg yn bendant nad oedd am ddilyn ei mham, a oedd yn golurydd gyda'r BBC.
Aeth i goleg celf gyda'r bwriad o fod yn artist, ond sylweddolodd nad oedd yn mwynhau gweithio ar ei phen ei hun mewn stiwdio.
Cafodd hyfforddiant fel colurydd, gan ddechrau gweithio ar raglenni teledu a ffilmiau.
Wrth weithio ar y ffilm Titanic yn 1996, cwrddodd â Leonardo DiCaprio, a Siân sy'n gwneud colur yr actor ar gyfer pob ffilm ers hynny.
Mae'n sôn wrth Beti am ei dyslecsia, crefft bod yn golurydd, a heriau gweithio ar ffilmiau fel Titanic a The Revenant.
No links were found in this episode’s notes.