Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.
Gyda dros 40 mlynedd o brofiad ym myd newyddiaduraeth, does neb sy’n adnabod gwleidyddiaeth Cymru yn well na Vaughan Roderick, ac ef yw gwestai Beti a’i Phobol yr wythnos hon. Mae Vaughan yn gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru a Radio Wales, lle mae’n cyflwyno rhaglenni gwleidyddol ar fore Sul, ac mae hefyd yn cyd-gyflwyno’r podlediad poblogaidd Gwleidydda ochr yn ochr â Richard Wyn Jones.
Yn y rhaglen, cawn glywed hanesion difyr ei fywyd a’i fagwraeth. Yn fachgen ifanc, roedd yn cadw ieir ac yn eu henwi ar ôl gwleidyddion y dydd.
Datblygodd y diddordeb mewn gwleidyddiaeth a hanes yn ifanc iawn. Mae’n cofio etholiad cyffredinol 1964 yn fyw, er mai tua saith oed yn unig oedd pan gafodd ei gynnal. Yn y blynyddoedd wedyn, bu’n dilyn rhai o isetholiadau mawr y 1960au, gan fynd gyda’i dad i gyfarfodydd ac ymgyrchoedd mewn ardaloedd fel Gorllewin y Rhondda a Chaerffili. Yn yr ysgol, roedd Hanes a Hanes Cymru ymhlith ei hoff bynciau.
Mae Vaughan hefyd yn trafod ei gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, pan oedd y mudiad cenedlaetholgar a diwylliannol Cymraeg yn arbennig o gryf. Wedi gadael y brifysgol, bu’n gweithio yn Sain Ffagan yn archifo sgyrsiau llafar cyn dechrau ei yrfa ddarlledu gyda gorsaf radio fasnachol CBC. Yn ddiweddarach, ymunodd â’r BBC, lle sefydlodd ei hun fel un o newyddiadurwyr gwleidyddol amlycaf Cymru. Mae’n mynegi pryder am ddyfodol newyddiaduraeth, gan dynnu sylw at y cyflogau isel sy’n wynebu llawer sy’n dechrau yn y proffesiwn heddiw. Mae hefyd yn edrych yn ôl ar ddiwylliant ystafelloedd newyddion hanner canrif yn ôl, gan gynnwys y diwylliant yfed a oedd yn rhan amlwg o’r byd hwnnw ar y pryd. Fel rhan o’r sgwrs, mae Vaughan yn dewis pedair cân sydd yn arbennig iddo, gan gynnwys Emyn Groeswen a Rhywle Draw Dros yr Enfys gan Tara Bethan.
No links were found in this episode’s notes.