Beti a'i Phobol

Rhys Mwyn

Jan 13, 2019 · 48 min · 46.2 MB
0:00-48:08

Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.

Archeoleg, angerdd ac Anhrefn yw rhai o'r pynciau trafod wrth i Rhys Mwyn sgwrsio gyda Beti George.

Un o Sir Drefaldwyn yw Rhys, a mae'n cael ei adnabod fel un sydd â dim ofn dweud ei farn a siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod.

Pan oedd yn ifanc, roedd yn teimlo nad oedd cerddoriaeth Gymraeg yn rhoi llais iddo fe a'i debyg.

Cafodd ei ysbrydoli wrth wrando ar raglen radio John Peel, a chlywed grwpiau fel Sex Pistols, Delta 5 a'r Mekons.

Daeth yn aelod o'r grŵp pync Cymraeg Anhrefn, cyn troi at reoli a hyrwyddo cerddorion.

Yn golofnydd i'r Herald Cymraeg, mae hefyd wedi dychwelyd at ei bwnc gradd, sef archeoleg. Dyna ble mae hapusaf, yn cloddio gyda ffrindiau.