Beti a'i Phobol

Mike Parker

Oct 14, 2018 · 47 min · 45.7 MB
0:00-47:34

Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.

Mae naws lle yn bwysig i Mike Parker, ac mae'n dweud ei fod bob amser wedi bod eisiau byw yng Nghymru.

Cafodd ei fagu yn Kidderminster, tua deugain milltir o'r ffin.

Gwahanodd ei rieni pan oedd yn bedair oed, a symudodd ei fam i Ffrainc. Mae'n amau mai dyna a arweiniodd at ei hoffter o fapiau, oherwydd eu bod yn fodd iddo gael trefn ar fyd cymhleth.

Astudiodd ddrama a Saesneg yn Llundain, gan droi at 'sgrifennu yn y pen draw fel bywoliaeth.

Yn gydawdur The Rough Guide to Wales, symudodd i'r wlad yn 2000 gan ddysgu Cymraeg, ac yn 2015 fe oedd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion.