Beti a'i Phobol

Mari Williams

Apr 8, 2018 · 43 min · 41.8 MB
0:00-43:33

Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.

Beti George yn sgwrsio â'r steilydd bwyd a'r cogydd, Mari Williams.

Yn un o bedwar o blant, cafodd ei magu ar fferm ger Llannefydd. Aeth i Ysgol Glan Clwyd, ac ymlaen wedyn i Brifysgol Caerdydd i astudio bwyd a maetheg.

Ar ôl graddio, aeth i Efrog Newydd i weithio fel nani i deulu gyda chysylltiadau Cymreig.

Dychwelodd i Brydain, gan weithio gyda rhai o'r archfarchnadoedd mwyaf fel steilydd bwyd, cyn symud i olygu cylchgronau bwyd.

Mae bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun, a newydd gyhoeddi ei llyfr ryseitiau cyntaf.

Mae'n byw gyda'i phartner a'i mab yn Swydd Hertford ers dros bymtheng mlynedd.