Beti a'i Phobol

Karl Davies

Sep 25, 2022 · 52 min · 50.0 MB
0:00-52:02

Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.

Wedi ei fagu yn Abergele ac yn gyn ddisgybl Ysgol Glan Clwyd, mae Karl Davies yn ymuno a Beti i drafod ei fywyd yr wythos yma.

Dychwelodd Karl nôl i Gaerdydd ddiwedd mis Mehefin eleni o China, ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion yno am 4 blynedd. Hanes China gaiff y sylw heddiw, gan ei fod yn credu bod anwybodaeth y gorllewin am y wlad yn broblem enfawr.

Bu Karl yn gweithio yn y byd gwleidyddol fel ymchwilydd yn San Steffan i Blaid Cymru, wedyn i’r byd newyddiadura gan ddringo i fod yn Olygydd Newyddion BBC Cymru. Ar ôl hynny fe fu’n Brifweithredwr Plaid Cymru am 9 mlynedd; I'r byd addysg aeth o wedyn fel Cyfarwyddwr Undeb y Prifathrawon. Aeth nol i swydd weinyddol yn y BBC ac wedyn draw i China i ddysgu saesneg i oedolion.