Beti a'i Phobol

Iestyn Davies

Nov 20, 2022 · 50 min · 48.5 MB
0:00-50:34

Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.

Dros y blynyddoedd mae’r cyn-dditectif a Phrif Arolygydd Iestyn Davies wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr heddlu’n cynnig gwasanaethau Cymraeg. Wedi treulio 30 mlynedd gyda Heddlu’r Gogledd, mae Iestyn bellach yn Bencampwr y Gymraeg gyda’r cwmni sy’n gyfrifol am redeg cyrsiau i’r rhai sydd wedi eu dal yn goryrru. UKROEd (UK Road Offender Education) sy’n rhoi trwyddedau i gwmnïau eraill i hyfforddi pobol sydd wedi eu dal yn gyrru yn gyflymach na’r terfyn, a gwaith Iestyn yw sicrhau bod y cwmnïau yng Nghymru yn cydymffurfio â rheolau iaith.

Cyn hynny, bu’r gŵr sy’n byw ym Mhorthaethwy ym Môn yn arwain y tîm oedd yn edrych ar droseddau difrifol, gan gynnwys llofruddiaethau a ddenodd sylw'r byd. Mae Iestyn yn rhannu straeon bywyd ac yn sôn am y sialensiau a'r mwynhad a gafodd o wneud y gwaith.