Beti a'i Phobol

Huw Thomas

Mar 10, 2019 · 49 min · 47.2 MB
0:00-49:08

Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.

Newid bywyd a thirlun y brifddinas oedd un o amcanion Huw Thomas pan gafodd ei ethol yn Arweinydd Cyngor Caerdydd yn 2017. Mae'n cydnabod bod hynny'n her, yn enwedig mewn cyfnod o lymder, ond yn benderfynol o fynd i'r afael ag anhafaledd.

Wrth gael ei fagu yng Ngheredigion, yr oedd yn gerddor ac yn chwaraewr rygbi brwd.

Astudiodd gerddoriaeth yn Rhydychen, gan ymdaflu i fywyd y Brifysgol.

Er na chafodd fagwraeth wleidyddol, datblygodd ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, a mewn sosialaeth yn enwedig.

Gweithiodd fel rheolwr prosiect i Airbus, a bu hefyd yn bennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru.

Cafodd ei ethol yn gynghorydd yn 2012, ac yn 2015 fe oedd ymgeisydd seneddol y Blaid Lafur yng Ngheredigion.