Beti a'i Phobol

Hannah Parr

June 21 · 49 min · 47.9 MB
0:00-49:55

Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.

Beti George sydd yn cael cwmni Hannah Parr sydd yn sylwebu ar S4C yn y Sioe Frenhinol yng Nghymru ac yn Horse of the year.

Mae Hannah hefyd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan; yn fridwraig ceffylau yn Llangeitho; ac mae ganddi siop ddillad yn Aberaeron sydd yn apelio at bobol sy'n byw yng nghefn gwlad, ac mae hi'n cael cymorth ei rhieni i redeg y busnes ac i ofalu am y ceffylau.

Fe symudodd y teulu i Gymru o Birmingham pan oedd Hannah yn 5 oed, 'roedd hi'n fodlon symud os oedd ei thâd yn fodlon prynu dolffin neu geffyl iddi. Cadwodd ei thad ei air, a daeth y merlen yn ddechrau ar daith newydd i’r teulu, a fyddai’n cysylltu’n agos â gyrfa Hannah heddiw.

Mae hi’n cystadlu mewn dosbarthiadau arddangos ceffylau a disgyblaethau marchogaeth eraill fel marchogi amatur a dangos mewn llaw.

Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis ambell i gân, yn cynnwys 'Sebona Fi' gan Yws Gwynedd sydd wastad yn codi ei chalon.