Beti a'i Phobol

Gethin Evans

Jun 29, 2025 · 49 min · 47.3 MB
0:00-49:15

Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.

Gwestai Beti George yw Gethin Evans, mae'n ddigrifwr stand-up, mae ei lais yn gyfarwydd i ni ar Radio Cymru, yn cyflwyno gigs comedi ac yn aelod o Fand Pres Llanreggub, ac mae'n dad i ddau o blant.

Ond mae ei waith bob dydd yn heriol, mae'n gweithio llawn amser i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn ymwneud â digido holl fanylion y gwasanaeth iechyd meddwl.

Daw yn wreiddiol o Dremadog, ac fe aeth o i Ysgol Gynradd Eifion Wyn - Porthmadog ac wedyn yn ei flaen i Ysgol Eifionydd. Bu'n gweithio gydag elusen Gisda, a bu'n gweithio gyda Community Music Wales. Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân yn cynnwys Anweledig a MC Mabon.