Beti a'i Phobol

Dr Ffion Reynolds

Sep 22, 2024 · 50 min · 48.4 MB
0:00-50:23

Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.

Beti George yn sgwrsio gyda Dr Ffion Reynolds sydd yn Uwch Reolwr Digwyddiadau Treftadaeth a Chelfyddydau gyda Cadw.

Mae Ffion wedi ei magu yng Nghaerdydd. Un o’r geiriau cyntaf ddysgodd Ffion oedd mabwysiadu. Gwnaeth ei rhieni’n n siŵr fod Ffion y ymwybodol o’i chefndir. Dywedwyd wrthi eu bod wedi sgwennu llythyr o amgylch y byd i ffeindio merch fach. Roeddynt wedi sgwennu i China, Japan Affrica ac fe gawsant ateb i’w llythyr drwy gael Ffion.

Mae wedi treulio amser yn gweithio yn Namibia a bu'n Dde America lle bu'n byw efo’r trigolion mewn un o'r fforestydd glaw ac yn astudio efo’r Shaman. Mae gan Ffion ddiddordeb mawr mewn madarch! Ceir biliynau o wahanol fathau o fadarch. Mae Ffion hefyd yn credu taw madarch sy’n mynd i achub y blaned!