Beti a'i Phobol

Dr Eilir Hughes

Aug 11, 2023 · 50 min · 48.7 MB
0:00-50:44

Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.

Meddyg teulu a ddaeth i amlygrwydd reit o ddechrau’r pandemig gan iddo chwarae rhan mor bwysig wrth geisio rheoli'r Covid-19 yw gwestai Beti a'i Phobol, ac fe gafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant. Mae Dr Eilir Hughes yn gweithio fel meddyg teulu yn Nefyn, Gogledd Cymru.

Mae'n gwerthuso meddygon teulu yn yr ardal a newydd ddechrau fel Cyfarwyddwr Meddygol gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Sefydlodd ymgyrch Awyr Iach Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd awyru a gwisgo masgiau i leihau'r risg o ledaenu a dal COVID-19. Daeth yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod. Sefydlodd raglen frechu yn y gymuned hefyd. Tŷ Doctor yn Nefyn oedd un o'r meddygfeydd cyntaf i frechu cleifion â'r brechlyn Pfizer.