Beti a'i Phobol

Bethan Rees Roberts

March 15 · 49 min · 47.1 MB
0:00-49:06

Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.

Bethan Rees Roberts yw gwestai Beti George.

Yn wreiddiol o'r Wyddgrug, mae Bethan bellach yn rhannu ei hamser rhwng Llundain a Caerdydd.

Mae'n Beirianydd Cemegol, ac wedi gweithio efo'r Tiwb yn Llundain (London Underground), a chwmni Shell.

Ei swydd olaf oedd fel Prif Swyddog Data Shell, lle bu’n gweithio am 18 mlynedd. Collodd ei swydd wrth i’r cwmni dynnu’n ôl o ddatblygu Ynni Gwyrdd, ac mae’n siomedig o weld y sector yn dirywio.

Treuliodd chwe mis yn California cyn Cofid yn datblygu systemau ynni gwyrdd, gan ddod â’r dechnoleg yn ôl i Brydain i adeiladu timau yn Lloegr ac Ewrop.