Beti a'i Phobol

Arthur Thomas

Dec 2, 2018 · 42 min · 41.2 MB
0:00-42:57

Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.

Llyfrau, straeon, cerddoriaeth werin a rygbi yw rhai o hoff bethau Arthur Thomas. Er hynny, astudio gwyddoniaeth wnaeth e yn y coleg, gan droi at ddysgu'r pwnc ar ôl graddio.

Wedi blynyddoedd o gael ei nabod fel mab y tenor Richie Thomas, mae'n hoffi dweud ei fod bellach yn cael ei nabod fel tad y delynores Elen Hydref.

Treuliodd gyfnod ym ymgyrchu dros Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn aml yng nghwmni Gruff Miles o grŵp Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog. Roedd y ddau yn teithio gyda'i gilydd pan gafodd y cerddor ei ladd mewn damwain ffordd yn y 70au.