Beti a'i Phobol

Aled Rees

Oct 7, 2018 · 42 min · 40.4 MB
0:00-42:05

Streams straight from the publisher. podnod never proxies or re-hosts episode audio.

Methiant yw peidio â mentro yn y lle cyntaf yw beth sy'n gyrru Aled Rees, “bachgen stwbwrn o Langwyryfon”, i ddatblygu syniadau a busnesau newydd.

Er gwaethaf diffyg cymwysterau, aeth i weithio yn labordy Ysbyty Bronglais, gan fynd yn ei flaen i gwblhau cwrs gradd a meistr. Bu'n rhaid rhoi’r gorau i’r gwaith hwnnw yn y pen draw, i ganolbwyntio ar ei wahanol fusnesau.

Penderfynodd ddysgu Sbaeneg, ac arweiniodd hynny at gwrdd â'i wraig, Angeles, a hefyd at sefydlu cwmni Teithiau Tango.

Mae gan Aled ac Angeles dri o blant, ac mae'n sôn wrth Beti pa mor bwysig yw teulu iddo, ac am ei edmygedd o'i ddiweddar fam.